DAVIES, WILLIAM JENKIN (1858 - 1919), gweinidog Undodaidd, llenor, a cherddor

Enw: William Jenkin Davies
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1919
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd, llenor, a cherddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Perfformio; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd yn Nhrecynon, Aberdâr, 30 Ionawr 1858. Fe'i haddysgwyd yn ysgolion dydd Trecynon ac yn ysgol R. Jenkin Jones; daeth yn fferyllydd, a hyn a esbonia ei ddiddordeb yng nghoed a llysiau plwyf Llandysul. Wedi ei baratoi gan y Parch. William James, aeth i Goleg yr Undodiaid ym Manceinion (1878-81), a bu am flwyddyn wedyn yng Ngholeg Owen fel ysgolor Gaskell. Bu'n weinidog Undodaidd Dowlais (1882-9); Gellionnen (1886-9); Llwyn-rhydowen, Bwlchyfadfa, a'r Graig, Llandysul (1889-96); a Mount Pottinger, Belfast (1896-1903). Ymneilltuodd o'r weinidogaeth a bu'n teithio'r gwledydd. Yn 1894 enillodd y wobr yn eisteddfod Llandysul am draethawd ar hanes y plwyf, a chyhoeddodd ef yn llyfr o dros 350 o dudalennau - Hanes Plwyf Llandyssul … (Llandyssul, 1896). Bu farw yn Llundain, 28 Mawrth 1919, a chladdwyd yng nghladdfa Kensal Green.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.