DAVIES, JAMES (1767? - 1860), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: James Davies
Dyddiad geni: 1767?
Dyddiad marw: 1860
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym mhlwy Clydau, Sir Benfro. Yr oedd yn aelod yn y Pant Teg (Castellnewydd Emlyn), a bu mewn ysgol yng Nghaerfyrddin. Yn 1793 yr oedd yn byw yn ochrau Ffynnonhenri, ac yn 1794 urddwyd ef yn weinidog arni ac ar Horeb, Rhydargaeau. Bu'n hynod lwyddiannus yn y ddwy eglwys. Ond yr oedd yn wrth-Galfinaidd yn ei ddiwinyddiaeth, ac yn ymraniad 1799 aeth y ddwy eglwys i gyfeiriadau gwahanol - glynodd Ffynnonhenri wrth Galfiniaeth, ond aeth Rhydargaeau 'n eglwys o Fedyddwyr Cyffredinol, a James Davies yn weinidog iddi.

Noder fodd bynnag mai Armin Trindodaidd oedd ef, ac nad ochrai o gwbl at Ariaeth; pan ddaeth y genhadaeth Wesleaidd Gymraeg i orllewin Cymru, rhoes bob croeso iddi, a gwelir ef (a Moses Williams) yn pregethu i'r Wesleaid Cymraeg yng Nghaerfyrddin yn 1806 (A History of Carmarthenshire, ii, 253).

Nid annaturiol fu iddo yn 1820 gefnu ar enwad y Bedyddwyr Cyffredinol (a oedd yn tueddu fwyfwy i'r aswy) a dychwelyd i'w hen enwad; ond y mae awgrym nad oedd ei ddaliadau diwinyddol wedi newid nemor ddim, ond bod ei boblogrwydd fel dyn a phregethwr wedi goroesi'r atgof o ddadleuon ugeinmlwydd oed a oedd bellach wedi colli cryn lawer o'u hystyr. Aeth Rhydargaeau drosodd gydag ef, a chyda hi Langyndeyrn, a oedd hefyd dan ei ofalaeth a bellach wedi llacio'i gafael ar yr Undodiaeth a bregethid gan ei chynweinidog William Thomas.

Gwahoddwyd ef gan Ffynnonhenri hithau i fod yn gydweinidog â David Evans iddi, a chafodd ei hen eglwys ddeugain mlynedd yn rhagor o'i wasanaeth. Bu farw yn Ffynnonbumsaint ar 16 Mai 1860, yn 93 oed, a chladdwyd ym mynwent Ffynnonhenri.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.