DAVIES, JACOB (1816 - 1849), cenhadwr gyda'r Bedyddwyr yn Ceylon;

Enw: Jacob Davies
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1849
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd yn Cefn-mawr, ger y Drefnewydd, Sir Drefaldwyn, 22 Chwefror 1816. Ymunodd â'r Bedyddwyr, gan dderbyn bedydd trochiad, yn Ebrill 1835. Dechreuodd bregethu yn 1837, a phasiodd yn 1840 i Goleg y Bedyddwyr, Bradford. Ar derfyn ei gwrs fe'i cynigiodd ei hun i'r gwaith cenhadol. Yn 1844 neilltuwyd ef i lafurio yn Ceylon, a chyrhaeddodd yno ym mis Medi 1844. Gwnaeth enw iddo'i hun fel ieithydd, ond er mor arbennig ei ddoniau pallodd ei nerth, a bu. farw Tachwedd 1849, yn 33 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.