Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , DAN ISAAC ( 1839 - 1887 ), un o arloeswyr dysgu Cymraeg yn yr ysgolion ; g. 24 Ionawr 1839 yn Llanymddyfri , yn fab i Isaac Davies , hetiwr (o Landybïe ), a'i wraig Rachel Charles . O Ysgol Frutanaidd Llanymddyfri aeth i goleg hyfforddi Borough Road , ac yn 1858 cafodd Ysgol y Comin , Aberdâr , lle y torrodd dir newydd drwy annog ei gynorthwywyr i ddefnyddio'r Gymraeg wrth eu gwaith. Yn 1867 , trosglwyddodd Evan Davies ( 1826 - 1872 ) [q.v.] ei ysgol yn Abertawe iddo, ond yn 1868 penodwyd ef yn arolygydd cynorthwyol ar ysgolion ; symudwyd ef yn 1870 i Cheltenham ac yn 1877 i Fryste . Yn 1882 penodwyd ef i gynorthwyo William Edwards ( 1851 - 1940 ) [q.v.] yn rhanbarth Merthyr Tydfil , ond nid cyn 1883 y symudodd i Gymru — i Gaerdydd . Yr oedd ei alltudiaeth wedi cryfhau ei gariad at ei iaith, a bellach awyddai i'r Gymraeg gael ei dysgu (nid ei harfer yn unig) yn yr ysgolion. Yn yr union adeg honno, cychwynnwyd mudiad o gyffelyb amcanion gan Gymdeithas y Cymmrodorion , gyda chefnogaeth yr athro Thomas Powel ( 1845 - 1922 ) [q.v.] . Siaradodd Davies ar y pwnc yn eisteddfod genedlaethol Lerpwl ( 1884 ), darllenodd bapur arno i'r Cymmrodorion yn Llundain ( 1885 ), a chyhoeddodd gyfres o ysgrifau yn Y Faner ( 1885 ), a ail argaffwyd ( 1885 , 1886 ) dan y teitl Tair Miliwn o Gymry Dwy-ieithawg . Yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr yn 1885 bu ganddo ran yng nghychwyniad y ‘ Gymdeithas i Ddefnyddio'r Iaith Gymraeg ,’ a elwir heddiw'n ‘ Gymdeithas yr Iaith Gymraeg .’ Llwyddodd yn 1886 (trwy ei bennaeth William Edwards ) i gael cydnabod Cymraeg yn bwnc y telid grant am ei ddysgu yn yr ysgolion. Paratôdd femorandwm ar addysg ddwy-ieithog, i'w gyflwyno i'r Ddirprwyaeth Frenhinol ar Addysg Elfennol yng Nghymru , yn 1886 eto, a rhoes dystiolaeth o flaen y ddirprwyaeth. Yn ei hadroddiad, mabwysiadodd y ddirprwyaeth y rhan fwyaf o argymhellion y memorandwm ( 1888 ), ond cyn i'r adroddiad ymddangos, yr oedd Davies wedi marw, 28 Mai 1887 . Bu'n briod ddwywaith, a gadawodd weddw a phlant.

Llyfryddiaeth:

  • Ifano Jones , yn y gyfrol Welsh Political and Educational Leaders in the Victorian Era , 1908 (gol. Vyrnwy Morgan ), 1908 , 437-93.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor