DAVIES, JOHN IDRIS ('Ioan Idris '; 1821 - 1889), bardd

Enw: John Idris Davies
Ffugenw: Ioan Idris
Dyddiad geni: 1821
Dyddiad marw: 1889
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn y Bala, mab John Davies, llyfr-rwymwr a gwerthwr llyfrau a phapurau. Cafodd y mab beth ysgol yn Nolgellau a'i brentisio wedi hynny gyda'i ewythr, Morris Davies ('Meurig Ebrill'), saer coed, a ddysgodd iddo, megis y gwnaeth John Jones ('Idris Fychan'), reolau barddoniaeth. Yn 21 oed ymfudodd i Utica, N.Y., ac wedyn i Cambria, Wisconsin, ac yn ddiweddarach, sef yn 1868, i Judson, Minnesota, lle y bu farw 13 Ionawr 1889. Yr oedd yn fardd da yn yr iaith Gymraeg. Cyhoeddwyd llawer o'i waith ym mhapurau newydd a chyfnodolion Cymreig America, eithr erys peth ohono heb ei gyhoeddi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.