DAVIES, THOMAS HUWS (1882 - 1940), ysgrifennydd comisiynwyr eiddo'r Eglwys yng Nghymru, llenor, a chasglydd llyfrau

Enw: Thomas Huws Davies
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1940
Priod: Alice Davies (née Wall)
Rhiant: John Rowlands
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgrifennydd comisiynwyr eiddo'r Eglwys yng Nghymru, llenor, a chasglydd llyfrau
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John Lias Cecil Cecil-Williams

Ganwyd ym Mhenuwch, Sir Aberteifi, 20 Ebrill 1882, a dygwyd ef i fyny gan ei nain, gwraig o gymeriad uchel. O ysgol elfennol Penuwch aeth i ysgol sir Tregaron, gyda chymorth cymdogion caredig; oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y bu'n astudio cemeg a mathemateg. Bu â'i fryd ar y weinidogaeth a bu'n pregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, eithr heb ei ordeinio. Yn 1906 fe'i dewiswyd yn ysgrifennydd cynorthwyol y comisiwn brenhinol ar yr Eglwys Wladol yng Nghymru; bu am tua thair blynedd (1911-4) yn ysgrifennydd preifat i'r Ysgrifennydd Cartrefol (Reginald McKenna); o 1914 hyd ei farw efe oedd ysgrifennydd comisiynwyr eiddo'r Eglwys yng Nghymru.

Llenyddiaeth, llyfrau, a gwleidyddiaeth oedd ei brif ddiddordebau. Yr oedd yn siaradwr rhwydd ac yr oedd ganddo ddull atyniadol wrth ysgrifennu. Cyhoeddwyd erthyglau ganddo yng nghyhoeddiadau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion - e.e., ' Some recent Welsh literature and the limitations of realism ' (yn Cymm., xxvii); bu'n golygu Y Wawr, a gyhoeddid yn Llundain, 1905-6, Llawlyfr Cymdeithas Ceredigion Llundain, 1934-9, a'r Welsh Outlook, gan ysgrifennu llawer ei hunan i'r olaf.

Priododd Alice Wall, Croesoswallt, yn 1913. Bu farw yn Llundain, Mawrth 1940.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.