Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , HUMPHREY (neu WMFFRE DAFIS (bu f. 1635 ), ficer Darywain, a chopïydd llawysgrifau Cymraeg ; mab Dafydd ap Gruffudd o gyffiniau Harlech . Dywedir iddo fod yn rheithor Llanfyllin am rai misoedd yn 1571 , ac iddo fyned oddi yno i astudio yng Nghaergrawnt . Ymddengys i'w yrfa yno gael ei chymysgu ag eiddo gŵr o'r un enw o Leamington Hastings yn y llyfrau ar raddedigion Caergrawnt . A barnu oddi wrth ddistawrwydd y beirdd ar y pwnc, ni chymerth radd yno. Bu'n ficer Darywain o 1577 hyd ei farw yn 1635 . Copïodd nifer o lawysgrifau barddoniaeth Gymraeg , ac erys o leiaf chwech ohonynt, sef Peniarth 114 , Llanstephan 35 a 118 , Mostyn 160 , Bodewryd 1 , a Brogyntyn 2 . Copïodd yr olaf hwn i'r Dr. Theodore Price , is-ddeon Westminster , a nai i'w wraig, Sioned ferch Edward Stanley , cwnstabl castell Harlech yn 1551 . Canwyd cywyddau iddo gan Ruffudd , Richard , a Sion Philip , Ieuan Tew Brydydd o Arwystl , ac Evan Lloyd o Waun Einion . Dywed Richard a Sion Philip iddo yn ieuanc gyfieithu llyfrau estron i'r Gymraeg .

Llyfryddiaeth:

  • A Survey of the Cathedral-Church of St. Asaph , 1720 , i, 384;
  • Thomas , A History of the Diocese of St. Asaph , ii, 234;
  • Athenae Cantabrigienses , 1858–1913 , ii, 474;
  • Alumni Cantabrigienses ;
  • N.L.W. Church in Wales Rec., S. Asaph;
  • Reg. Collat.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

DAVIES , HUMPHREY (neu WMFFRE DAFIS ; Bywg. 117b). Yn lle Peniarth 114 darllener Gwyneddon 1 .