gŵr fel y tybir o
sir Gaerfyrddin
ac o deulu cefnog; gellid barnu oddi wrth ei lythyrau fod ganddo berthnasau ym
Mrycheiniog
, tua'r
Cerrig-cadarn
efallai. Tystia ei ysgrifen a'i
Saesneg
cywir iddo gael addysg foreol dda, ac yn ôl y
Wilson MSS.
yn
llyfrgell y Dr. Williams
bu yng
Nghaerfyrddin
dan
William
Evans
. Tua
1718
urddwyd ef yn
weinidog
Blaen Gwrach
yng
Nglyn Nedd
, a
chadwai ysgol
yno; dan ei weinidogaeth ef y magwyd
Lewis
Rees
[q.v.]
. Ond ymhoffai'n ddiflino mewn pregethu teithiol, fel eraill o'r ysgol newydd ‘genhadol’ o weinidogion
Ymneilltuol
; cenhadai drwy holl
Flaenau Morgannwg
(ac yn wir mewn cylch lletach fyth), gan sefydlu eglwys yn
Llanharan
(tua
1734
) a threiddio i gymoedd
Rhondda
. Tua
1738
, cefnodd ar
Flaen Gwrach
, sefydlodd eglwys yng
Nghymer
Rhondda
, a chododd gapel yno (cafodd brydles yn
1743
) sydd eto'n cael ei ddefnyddio — y capel
Ymneilltuol
cyntaf yng
Nghwm Rhondda
; yn
Eirw
(
Hafod
) y gŵnâi ei gartref. Bu f. trwy
foddi
(
O.
Morgan
,
History of Pontypridd and the Rhondda Valleys
, 286) tua
Rhyd-yr-Eirw
;
gwylltiodd ei geffyl a bwriwyd yntau i'r afon
, yng
Ngorffennaf 1766
, yn 70 oed — y mae'r dydd o'r mis ar garreg ei fedd wedi treulio, ac nid oes gofnod arall. Bu f. ei weddw yn
1772
, yn 77 oed. Cyhoeddodd
J. Rufus
Williams
(yn
Llangollen
,
1840
) bigion allan o lyfr poced a fu'n eiddo iddo, dan y teitl
Hen Lyfr H.D.
, gyda rhagair sy'n cynnwys manylion amseryddol hwylus. Cydredai gyrfa deithiol
Henry
Davies
â dechreuadau
Methodistiaeth
yng
Nghymru
, a chydweithredodd yntau'n galonnog â hi — efallai yn herwydd cysylltiadau lleol (gw. uchod). Yr oedd yn un o'r gweinidogion
Ymneilltuol
a wahoddodd
Howel
Harris
i
Forgannwg
; ymwclai â
Threfeca
; yn wir, parhaodd i gydweithio â'r
Methodistiaid
yn hwy nag unrhyw weinidog
Ymneilltuol
arall yng
Nghymru
ac eithrio
Edmund
Jones
[q.v.]
. Mynychai'r
sasiynau Methodistaidd
hyd
1744
; gwyddom iddo ohebu â
Harris
hyd
1750
beth bynnag. Y mae 20 o'i lythyrau at
Harris
ar gael (rhestr a detholion yn
Y Cofiadur
,
1935
), llythyrau cyfeillgar cynnes, yn dangos cydnabyddiaeth â phrif
Fethodistiaid Calfinaidd
Cymru
a
Llundain
, ac ag
Ymneilltuwyr ‘Efengylaidd’
yn
Lloegr
.
Dylid sylwi ar ddisgynyddion
Henry
Davies
(
O.
Morgan
, op. cit., 286-8) gan fod eu hanes yn ddrych o ymnewidiadau diwydiannol
Cwm Rhondda
. Dywedir y byddai ef yn
ymhel â meddygiaeth
(awgrymir hynny yn
Hen Lyfr H.D.
), ac yn sicr bu'n hynafiad i linach hir o
feddygon
yn y fro. Disgrifir ei unig fab,
SAMUEL
DAVIES
(
1734?
-
1820
) fel ‘
surgeon
’ ar garreg ei fedd; merch i
ffermwr
oedd ei wraig. Yr oedd eu mab hynaf,
HENRY
DAVIES
, yn
feddyg
i gylch mawr o wlad; dywedir mai ei frawd-yng-nghyfraith ef oedd ‘perchen y rhan fwyaf o'r tir y saif
Porth Rhondda
arno heddiw’. Cafodd
Henry
bedwar o blant, ac yr oedd yr hynaf ohonynt,
EVAN
DAVIES
(
1801
-
1850
) yn ‘gymeriad’ nodedig. Efe oedd
meddyg y lofa
a agorwyd yn
Ninas Rhondda
gan
Walter
Coffin
[q.v.]
; fel
Coffin
, yr oedd yn
Undodwr
, ac erys storïau difyr am ei ddadleuon diwinyddol brwd (ond rhadlon) â'r
glowyr
. Cymerodd y ffugenw ‘
Ieuan ap Dewi
’; sgrifennodd lawer ar ddiwinyddiaeth i
Seren Gomer
; cyhoeddodd lyfr,
Rhifedi ac Undod Duw
(
Caerdydd
,
1846
); a dechreuodd (
1827
) gyhoeddi
Y Meddyg Teuluaidd
, yn rhannau misol, ond methodd hwnnw. Bu f.
22 Hydref 1850
(
Enw F.
). Yr oedd ei wraig,
CATHERINE
NAUNTON
, yn ferch i
David
Naunton
(
1777
-
1849
),
gweinidog y Bedyddwyr
yn
Ystradyfodwg
— chwaer iddi hi,
Ann
, oedd mam
D. W.
Davies
,
meddyg
yn
Llantrisant
, a nain
NAUNTON
DAVIES
(
1852
-
1925
); gweler
Who's Who in Wales
,
1921
, a'r
Western Mail
,
14 Chwefror 1925
), yntau'n
feddyg
(
F.R.C.S.
) ond yn fwy adnabyddus fel
dramodydd
a
hyrwyddwr y ddrama
yn
Neheudir Cymru
— troser y fynegai yn
O. Llew.
Owain
,
Hanes y Ddrama yng Nghymru
(
1948
). Cafodd
Evan
a
Catherine
Davies
dri mab, ac aeth dau o'r rheini yn eu tro'n
feddygon
; yr oedd yr hynaf,
HENRY
DAVIES
(
1827
-
1899
) yn ŵr amlwg ym mywyd cyhoeddus
Cwm Rhondda
, a chofir ei enw ynglŷn â'r ymdrechion i achub bywydau yn nhrychineb mawr
glofa'r Tynewydd
(
Cymer
),
1877
.
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor