DAVIES
,
JOHN EVAN
(‘
Rhuddwawr
’;
1850
-
1929
),
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor
;
g. ym
Maes-yr-adwy
,
Llanfynydd
. Addysgwyd yn
ysgol ramadeg Llandeilo-fawr
, yn
Nhrefeca
, ac yn
Glasgow
, lle'r oedd yn ‘
Ysgolor y Dr. Williams
’ (
1876
) ac y graddiodd yn
1880
. Wedi
gweinidogaethu
yn
Llanelli
, bu yn eglwys
Jewin
(
Llundain
) o
1886 hyd 1911
, yna'n fugail yn
Llandeilo-fawr
a
Llanelli
; bu f. yn
Nhre-Gŵyr
,
19 Hydref 1929
. Bu'n
llywydd
cymdeithasfa'r Deheudir
yn
1901-2
, ac yn ‘
Ddarlithydd Davies
’ yn
1916
. Sgrifennai lawer i'r
Geninen
, a dug allan
Gyfrol Goffa James Hughes
,
1911
, a llyfrau eraill. Cystadleuai'n fynych mewn eisteddfodau, ac yn
eisteddfod genedlaethol Llanelli
,
1903
, enillodd y
goron
.
Llyfryddiaeth:
-
Y Drysorfa
,
1902
, 145-50;
-
A History of Carmarthenshire
,
1935–9
, ii, 440;
-
Blwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd
,
1930
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor