DAVIES, EVAN (1805 - 1864), cenhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain, gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur amryw lyfrau

Enw: Evan Davies
Dyddiad geni: 1805
Dyddiad marw: 1864
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain, gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur amryw lyfrau
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd yn Hengwm, plwyf Lledrod, Sir Aberteifi, 1805. Ei fagu yn y gymdogaeth, ei brentisio'n ddilledydd, a symud i Lundain at ei dad. Ymaelododd gyda'r Annibynwyr yn eglwys Little Guilford Street (y ' Boro'), ond yn 1827 daeth i'r Mynydd-bach, ger Abertawe. Codwyd ef i bregethu yno, ac aeth am gwrs o baratoi i athrofa'r Neuadd-lwyd, ym Mhen-y-banc, o dan y Dr. Phillips. Derbyniwyd ef i Goleg yr Annibynwyr (Western Academy) yn Exeter. Ordeiniwyd ef ar eglwys Great Torrington, Dyfraint, ond yn 1835 derbyniwyd ef gan Gymdeithas Genhadol Llundain, a neilltuwyd ef i orsaf genhadol Penang, yng Nghulfor Malaca. Dychwelodd heb iechyd yn 1840. Bu'n ddirprwywr i'r genhadaeth (1840-2), yn arolygwr ar y ' Boys' Mission School ' yn Walthamstow (1842-4), yn weinidog yn Richmond, Surrey (1844-57), a Heywood, Manceinion (1857-9). Symudodd i Dalston yn 1863 a bu farw yng Nghrug-y-bar, Sir Gaerfyrddin, 18 Mehefin 1864. Cyhoeddodd lyfrau ysgolheigaidd: China and her Spiritual Claims; Memoirs of the Rev. Samuel Dyer; An Appeal to Reason and Good Conscience of Catholics; Rest: Lectures on the Sabbath. Golygodd a chyhoeddodd Letters of the Rev. Samuel Dyer to his Children; Lectures on Christian Theology (Payne); The Works of the late Rev. Edward Williams of Rotherham.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.