Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , EVAN ( 1750 - 1806 ), gweinidog gyda'r Annibynwyr ; g. yn 1750 yn Nyffryn Llynod ym mhlwyf Llandysul . Yr oedd ei dad, James Davies , yn weinidog eglwysi'r Cilgwyn , Abermeurig , a Chiliau Aeron . Bu Evan Davies am rai blynyddoedd yn athrofa Caerfyrddin . Yn 1775 urddwyd ef yn gyd-weinidog eglwys Llanedi , lle y llafuriodd hyd ddiwedd ei oes. Bu f. 12 Ebrill 1806 yn 56 oed.

Yr oedd Evan Davies yn bregethwr derbyniol ac yn ŵr tangnefeddus a diwyd iawn. Nid ymyrrai yn y dadleuon diwinyddol a gynhyrfai'r eglwysi yn y dyddiau hynny ond ymdaflai i'r gwaith o ehangu terfynau Annibyniaeth yn y cylch. Bu'n foddion i sefydlu nifer o achosion, megis Llanelli ( Capel Als ), 1780 , Cross Inn ( Rhydaman ), 1782 , Penbre , ac, yn wyneb llawer o erledigaeth, Cydweli ( Capel Sul ), 1785 .

Llyfryddiaeth:

  • Y Diwygiwr , 1835 , 131-4;
  • The Carmarthen Antiquary , 1936 , 41-2;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , iii, 504;
  • Enwogion Ceredigion , 1869 , 26-7.

Awdur:

Thomas Harris Lewis, M.A., ( -1972), Caerdydd