DAVIES, EVAN ('Philomath '; fl. 1720-50), almanaciwr

Enw: Evan Davies
Ffugenw: Philomath
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: almanaciwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Gwyddoniaeth a Mathemateg; Y Gofod a Hedfan
Awdur: Enid Pierce Roberts

yn byw ym Manafon, Sir Drefaldwyn. Cyhoeddodd gyfres o almanaciau - Newyddion Mawr Oddiwrth y Sêr. Ymddangosodd y cyntaf, efallai, am y flwyddyn 1738, a'r trydydd am 1741. Argraffwyd hwy yn Amwythig gan T. Durston. Cynhwysant farddoniaeth dda a pheth gwybodaeth hanesyddol. Erbyn heddiw nid yw Evan Davies fawr mwy nag enw ac y mae ei almanaciau'n brin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.