DAVIES, JOHN ELIAS ('Telynor y Gogledd'; 1847 - 1883)

Enw: John Elias Davies
Ffugenw: Telynor Y Gogledd
Dyddiad geni: 1847
Dyddiad marw: 1883
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 20 Mawrth 1847, ym Methesda, Sir Gaernarfon. Derbyniodd ei addysg ar y delyn gan James Hughes ('Iago Bencerdd'), Trefriw, D. Morris, Bangor, a William Streatham, Lerpwl. Enillodd ar ganu'r delyn yn 12 oed yn eisteddfod Llangollen 1858, y prif wobrwyon yn eisteddfodau Conwy (1861), Caernarfon (1862), Rhyl (1863), Llandudno (1864), Fflint (1867), ac mewn amryw eraill. Yr oedd ganddo wybodaeth fanwl o gerdd dant, ac ystyrid ef y gorau yn ei gyfnod am gyfeilio i'r cantorion. Bu farw 25 Ionawr 1883, a'i gladdu ym mynwent Glanogwen, Bethesda.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.