Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , EDWIN ( 1859 - 1919 ), golygydd a chyhoeddwr ; g. yn Old Parr's Cottage , ger y Trallwng , Mawrth 1859 . Symudodd ei deulu i Aberhonddu pan nad oedd efe ond plentyn, ac fe'i prentisiwyd ef am saith mlynedd i'r gwaith argraffu a chyhoeddi . Ysgrifennai'n gyson i'r Wasg leol, yn enwedig ar bwnc dirwest a bleidiai yn selog. Daeth yn oruchwyliwr ar y busnes argraffu lle bu'n brentis, ac yn ddiweddarach daeth hwnnw'n eiddo iddo. Bu'n golygu a chyhoeddi 'r Brecon and Radnor County Times am 12 mlynedd. Priododd Hannah Eleanor Blissett (bu f. Chwefror 1929 ), a bu iddynt saith o feibion a phedair merch. Yn y blynyddoedd diweddaraf arferai enw'i wraig yn ei fusnes — ‘ Blissett Davies and Co. ’ Ei gyfraniad pennaf i lenyddiaeth Cymru oedd ailgyhoeddi llyfrau ar hanes siroedd Cymru a oedd allan o brint. Yn aml ychwanegai atynt. Ymhlith y rhain yr oedd dau argraffiad o History of the County of Brecknock , Theophilus Jones (ailbrintio dwy gyfrol yn un, 1898 , ac ‘argraffiad Glanusk ,’ pedair cyfrol, 1909-30 ; golygwyd a chyhoeddwyd cyfrolau 1-3 gan Davies ); The History and Antiquities of the County of Cardigan , Sir Samuel Rush Meyrick , 1907 ; A Historical Tour through Pembrokeshire , Richard Fenton , 1903 ; An Historical Tour of Monmouthshire , archdeacon William Coxe , 1904 . Yn 1905 , golygodd a chyhoeddodd A General History of the County of Radnor , wedi'i gasglu ynghyd o nodiadau yn llawysgrif Jonathan Williams a ffynonellau eraill (cyhoeddwyd argraffiad lawer llai ohono gan R. Mason , Dinbych-y-pysgod , yn 1859 ). Gweithiau eraill o bwys a gyhoeddwyd gan Davies oedd: The Birds of Breconshire , E. C. Phillips , 1899 ; Theophilus Jones, F.S.A., historian; his life, letters, and literary remains (gol. E.D., 1905 ); a Parochial Registers and Records , 1906 , wedi'u casglu gan E.D. Bu f. Edwin Davies , yn ei gartref, Dinas Lodge , Aberhonddu , Chwefror 1919 , a chladdwyd ef ym mynwent Aberhonddu . Bu Davies yn ddiwyd yn crynhoi deunydd hanes siroedd . Gwnaeth gasgliad helaeth o ddogfennau a chofnodion a sicrhau eu cadw ar gyfer y dyfodol. Oherwydd diffyg hyfforddiant mewn techneg hynafiaethol a hanesyddol ni wnaeth y gorau o'r deunydd a oedd ganddo, ond y mae pawb sy'n ymddiddori yn hanes siroedd, yn enwedig Brycheiniog a Maesyfed , yn ddyledus iddo am fod cymaint o wybodaeth amhrisiadwy wedi ei ddiogelu.

Llyfryddiaeth:

  • Ffeiliau y Western Mail a'r Brecon & Radnor County Times ;
  • catalogiau Ll.G.C. a Cardiff Free Libraries, Catalogue of Printed Literature in the Welsh Department , 1898 ;
  • gwybodaeth gan G. Blissett Davies , mab Edwin Davies .

Awdur:

William Williams, F.L.A. (1885-1950), Aberystwyth