DAVIES
,
EDWARD
(
1827
-
1905
),
gweinidog gyda'r Annibynwyr yn U.D.A., ac awdur
;
g. yn ninas
Efrog Newydd
, mab i
William
a
Catherine
Davies
(o
Lanuwchllyn
,
sir Feirionnydd
) a symudodd yn
1829
i
Bethel
, gerllaw
Remsen
, talaith
Efrog Newydd
. Ymbaratodd ar gyfer y weinidogaeth o dan ofal
Morris
Roberts
[q.v.]
,
Remsen
; fe'i hordeiniwyd yn
1853
a bu'n gofalu am
eglwys Annibynnol Gymraeg
Waterville
am 17 mlynedd — bu hefyd am saith mlynedd yn gofalu am
eglwysi Annibynnol Saesneg
yn
Oriskany Falls
a
Deansboro
. Yn
1882
llwyddodd i wneuthur peth yr oedd yn arfaethu ei wneuthur ers blynyddoedd — prynodd
Y Cenhadwr
, cylchgrawn misol
Annibynwyr Cymreig America
; symudodd o
Waterville
i
Remsen
, lle y cyhoeddid y cylchgrawn, a chymerth ofal eglwysi
Peniel
a
Bethel
yno — hen eglwysi
Morris
Roberts
. Rhoes heibio ofalu am
Peniel
ymhen dwy flynedd, gan gymryd gofal
Steuben
. Yn
1898
dychwelodd i
Waterville
a ddaeth hefyd yn lle cyhoeddi
Y Cenhadwr
hyd iddo orffen cael ei gyhoeddi (
1901
). Bu f.
8 Rhagfyr 1905
.
Trafaeliodd
Davies
lawer gan ymweld i llu o sefydliadau Cymreig
U.D.A.
Yn
1866
daeth i
Gymru
gyda
Morris
Roberts
. Bu'n eiddgar iawn o blaid gwaharddiad diodydd meddwol yn
U.D.A.
Heblaw
ysgrifennu llu mawr o erthyglau i gyfnodolion
, cyhoeddodd dri llyfr —
Byr Gofiant am y Parch. Llewelyn D. Howell, Utica
…(
Utica
,
1866
),
Grawnwin Aeddfed … yn cynwys Pregethau gan amryw o Weinidogion yr Annibynwyr yn Nghymru…
(
Utica
,
1867
), a
Cofiant…Morris Roberts
(
Utica
,
1879
).
Llyfryddiaeth:
-
The Cambrian
(Utica),
1905
, 37-9.
Awdur:
Robert (Bob) Owen, O.B.E., M.A., (1885-1962), Croesor