Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , EDWARD (‘ Iolo Trefaldwyn ’; 1819 - 1887 ), eisteddfodwr a bardd ; g. ym Moel-y-frochas , yn ymyl Llanfyllin . Ei rieni oedd yr aelodau cyntaf ymysg y Methodistiaid Calfinaidd yn Rhos-y-brithdir . Cafodd ychydig addysg yn ysgol Morris Davies , Llanfyllin , ond gorfu iddo ddychwelyd adref i weithio ar y tir . Yn fuan gadawodd y fferm a mynd i weithio i chwarel Llangynog , ac oddi yno i waith plwm Rhyd-y-mwyn . Bu am ysbaid yn Lerpwl , yn gwerthu glo , eithr nid oedd dim llwyddiant ar ei fasnach. Wedi hyn ymsefydlodd yn Wrecsam , gan deithio'r wlad i gasglu archebau dros gyhoeddwyr llyfrau o'r Alban . Dilynai'r eisteddfod yn ffyddlon. Cystadlai'n barhaus, yn rhy aml i gynhyrchu dim o wir werth. Enillodd gadair eisteddfod y Gordofigion, Lerpwl , yn 1870 , am ei bryddest, ‘ Goleuni .’ Gelwid arno'n aml i feirniadu llên ac adrodd a chanu penillion mewn eisteddfodau lleol a chyfarfodydd cystadleuol. Ychydig cyn ei farw cyhoeddodd Caneuon Iolo Trefaldwyn . Yr oedd yn englynwr medrus ac yn un o'r rhai gorau am lunio beddargraff . Bu'n godwr canu yng nghapel Seion , Wrecsam , am 21 mlynedd. Bu f. 4 Ionawr 1887 , a chladdwyd ef ym mynwent newydd Wrecsam .

Llyfryddiaeth:

  • R. Williams , Montgomeryshire Worthies , ail arg., 1894 , 36;
  • Cymru , iii. 269;
  • Bye–Gones, relating to Wales and the Border Counties , 1887 .

Awdur:

Dr Enid Pierce Roberts, M.A., D.Litt., Bangor