DAVIES, JOSEPH E. (1812 - 1881), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn U.D.A. ac awdur

Enw: Joseph E. Davies
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1881
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn U.D.A. ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Cwm-Cati-Fach, Llanarthneu, Sir Gaerfyrddin. Ymfudodd i America gan lanio yn Efrog Newydd 25 Mai 1842. Aeth i'r weinidogaeth, 1842, fe'i hordeiniwyd yn Danville, Pennsylvania, 1842, a bu'n weinidog ar eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Hyde Park, Scranton, Pennsylvania. Cyhoeddodd Blwch Diwinyddol: sef Corff o Dduwinyddiaeth… (Scranton ac Utica, 1869-71) a Crefydd y Byd Cristionogol. Bu farw 1 Ionawr 1881 yn Hyde Park.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.