Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , DAVID ( 1764? - 1828 ), gweinidog ac athro Annibynnol ; g. tua Llansawel ; nodir ei fod yn 19 oed pan aeth i Gaerfyrddin yn 1783 . Gadawodd yr academi yn 1785 , ac urddwyd ef yn weinidog Llan-y-bri . O 1795 hyd 1813 bu'n gydathro â David Peter [q.v.] yng Nghaerfyrddin , ond daeth ei yrfa yno i ben yn herwydd cyhuddiadau (nas profwyd) o anfoesoldeb. Daliodd i fugeilio Llan-y-bri , ond ni bu hi'n esmwyth arno yno chwaith; yn wir, ymadawodd mwyafrif ei gynulleidfa gan gychwyn achos arall yn y Capel Newydd . Ystyriai rhai Calfiniaid hefyd nad oedd yn iach yn y ffydd. Bu f. 27 Tachwedd 1828 trwy syrthio oddi ar ei geffyl a boddi , gerllaw Rhyd-y-gors . Bu'n briod ddwywaith.

Llyfryddiaeth:

  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , iii, 385, 387-8.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor