DAVIES, DAVID (1753 - 1820), offeiriad Methodistaidd

Enw: David Davies
Dyddiad geni: 1753
Dyddiad marw: 1820
Rhiant: Catherine Davies
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 1753, mab i John a Catherine Davies, Pen-y-bont, Castellnewydd Emlyn. Ei rieni oedd cefnogwyr pennaf y Methodistiaid yng Nghastellnewydd, ac yn eu cartref yr ymgynullai'r seiat un adeg. Yr oedd rhyw David Davies yn gurad Llanddarog a Llanarthnau, Sir Gaerfyrddin, 1769-1785, yn gefnogydd eiddgar i'r Methodistiaid; eithr 16 oed oedd gwrthrych y nodyn hwn yn 1769 od yw oed ei farw a welir ar ei feddfaen yn gywir.

Cawn ef yn rheithor Llanfyrnach a Phenrith, Sir Benfro, ar 9 Rhagfyr 1797, a chydweithredai â'r Methodistiaid hyd yr Orderniad yn 1811. Yr oedd yn un o ymddiriedolwyr y capel yn Nhrefdraeth a gollwyd i'r Methodistiaid yn 1811. Cefnodd ar y Methodistiaid yr un adeg.

Bu farw 18 Hydref 1820; ceir ei feddfaen ym mynwent Llanfyrnach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.