DAVIES, DANIEL (1840 - 1916), 'cashier' Cwmni Glofeydd yr Ocean (Ton, Ystrad), a llenor

Enw: Daniel Davies
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1916
Rhiant: Mary Davies (née Jones)
Rhiant: David Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'cashier' Cwmni Glofeydd yr Ocean (Ton, Ystrad), a llenor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Economeg ac Arian; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Evan David Jones

Mab hynaf David Davies, crydd, Tregaron, a adweinid fel David Davies, Camer-fach, un o flaenoriaid enwog capel Bwlchgwynt (M.C.). Ei fam oedd Mary, merch David Jones, Dolau Bach, un o flaenoriaid enwocaf Llangeitho. Ganwyd ef yng ngwanwyn 1840 yn Nhanyrodyn, Tregaron, a'i fagu mewn ty yn Noldre. Cafodd ei addysg yn ysgol Morgan Morgan, Penygraig, tad J. Myfennydd Morgan, ac y mae nod yr ysgol ar ei lawysgrifen ddestlus, fel ar waith disgyblion eraill yr un athro. Bu am gyfnod byr yn cadw ysgol Gorsneuadd ar war Tregaron, ac wedi hynny yn drafaeliwr te yn siroedd Aberteifi Brycheiniog, a Chaerfyrddin, dros John Lewis ('Ioan Mynyw'). Symudodd i Ddowlais yn 1862, ac yn niwedd 1865 i'r Rhondda, lle y treuliodd weddill ei oes yn gyfrifydd i Gwmni'r Ocean. Fel ' Daniel Davies, cashier, Ton ' yr adweinid ef hyd ei farw 30 Medi a'i gladdu yn Nhreorci, 5 Hydref 1916. Bu'n amlwg yn hanes eglwys Jerusalem (M.C.), Ton, o'i dechreuad, etholwyd ef yn flaenor ynddi yn 1876, a bu'n arweinydd yno tan iddo golli ei glyw tua 1895. Yr oedd ei haelioni a'i hoffter at anifeiliaid ac adar yn ddihareb. Anfonai dryciaid o lo i'w gyfeillion yn Nhregaron bob gaeaf, gan ddosbarthu tunelli yn rhad i dlodion y dref.

Ysgrifennodd lawer i gylchgronau ei enwad ac i'r Brython, 1861-3, Y Geninen, a Cymru (O.M.E.), ar hanes lleol siroedd Aberteifi a Morgannwg, bywyd crefyddol, bywgraffiadau, a chysylltiadau llenyddol. Cyhoeddodd lyfrynnau: Dewi Sant, Traethawd, Caerfyrddin, 1863; Ymddiddan yn Nhy Capel y Cwm, Treherbert, d.d.; Darllen y Beibl yn yr Ysgolion Dyddiol (gyda J. D. Thomas), Ystrad Rhondda, 1890; Y Parch. Daniel Rowland, Llangeitho, a Diwygwyr Methodistaidd ereill … Amddiffyniad, Treorci, 1906; golygodd bregethau Islwyn, ac ef a ysgrifennodd y nodyn bywgraffyddol ar ddechrau Gwaith Barddonol Islwyn (O. M. Edwards), 1897. Dywedai Syr Owen M. Edwards na buasai'r Gwaith wedi ei gyhoeddi o gwbl onibai am Daniel Davies. Y mae casgliad enfawr o lythyrau a dderbyniodd oddi wrth lu o weinidogion a llenorion ei gyfnod yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.