DAVIES, DANIEL ('Y Dyn Dall'; 1797 - 1876), gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Daniel Davies
Ffugenw: Y Dyn Dall
Dyddiad geni: 1797
Dyddiad marw: 1876
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Morris Brynllwyn Owen

Ganed ym Moelfre, Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin, 15 Tachwedd 1797. Yn 1803 symudodd ei dad i Ferthyr Tydfil ac yn 1804 amddifadwyd y bachgen Daniel o'i olygon gan y frech wen.

Bu'n gweithio yng ngwaith Guest, Merthyr, am bum mlynedd cyn ei dderbyn i sefydliad y deillion yn Lerpwl yn 1815. Yno dysgodd grefft a siarad Saesneg.

Dychwelodd yn 1817 a dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid, ond yn 1821 bedyddiwyd ef gan David Saunders, Seion, yn afon Taf; yr un flwyddyn ymsefydlodd yn weinidog ar ddiadell o Fedyddwyr yn Llundain. Yn niwedd 1826 dechreuodd ar ei waith yn Abertawe, fel olynydd Joseph Harris ('Gomer'); llafuriodd yno hyd 1855. O 1855 i 1860 gofalai am Fethania, Aberteifi, ac o 1861 i 1868 am Ebeneser, Aberafon. Yn ei ddydd yr oedd yn wr amlwg ym mywyd cyhoeddus ei enwad.

Bu farw 19 Chwefror 1876 a chladdwyd ef yn Abertawe.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.