DAVIS, DAVID DANIEL (1777 - 1841), meddyg

Enw: David Daniel Davis
Dyddiad geni: 1777
Dyddiad marw: 1841
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym mhlwyf Llandyfaelog, Caerfyrddin, 15 Mehefin 1777. Bu yn ysgol ramadeg Caerfyrddin, wedyn yn academi Ymneilltuol Northampton, ac wedyn ym Mhrifysgol Glasgow, lle y graddiodd yn 1801. Gweithiodd fel meddyg yn Sheffield hyd 1813, pan symudodd i Lundain, a chael ei benodi'n feddyg i'r Queen Charlotte's Hospital. Yn 1819, efe a weinyddai ar dduges Caint pan aned y frenhines Victoria. Penodwyd ef yn 1827 yn athro bydwreigyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol yn Llundain. Bu farw 4 Rhagfyr 1841.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.