Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAVIES , DAVID CHRISTOPHER ( 1827 - 1885 ), daearegwr a pheiriannydd mwnawl ; g. yng Nghroesoswallt , a phrentisiwyd ef gyda haearnwerthwr . Dechreuodd ymddiddori yng nghreigiau'r ardal ac ymunodd â'r Oswestry Naturalists Field Club . Yn 1852 ymsefydlodd fel peiriannydd mwnawl a bu'n llwyddiannus yn yr alwedigaeth hon — yn enwedig yng Ngogledd Cymru , ac yn Ffrainc , yr Almaen , a Norwy hefyd.

Cyhoeddodd lyfryn at wasanaeth ymwelwyr â Llangollen a'r cylch — cafwyd 3ydd argraffiad ohono yn 1864 . Ceisiodd yn hwn esbonio rhai o ddiddordebau daearegol yr ardal. Gwnaeth gyfraniadau gwerthfawr tuag at gynnydd gwybodaeth o ddaeareg Gogledd Cymru gyda'i erthygiau yn y Geological Magazine , Proceedings of the Geologists' Association ; ysgrifennodd hefyd erthyglau i'r British Architect a'r British Quarterly . Enillodd wobrau mewn eisteddfodau, e.e. ‘ The Metalliferous Deposits of Denbighshire and Flintshire ’ ( Caernarfon , 1880 ), a ‘ The Fisheries of Wales ’ ( Lerpwl , 1884 ). Ymysg ei lyfrau ar ddaeareg economyddol y mae Treatise on Slate and Slate Quarrying in North Wales , 1878 ac 1880 ; Treatise on Earth Minerals and Mining , 1884 ; a A Treatise on Metalliferous Minerals and Mining , 1880 ; gadawodd ar ei ôl draethawd anorffenedig ar ddaeareg Gogledd Cymru . Yr oedd hefyd yn bregethwr lleygol , a chyhoeddodd gyfrol o bregethau — The Christ for all the Ages . Bu f. ar ei ffordd adref o daith busnes yn Norwy , 19 Medi 1885 .

Llyfryddiaeth:

  • Quarterly Journal of the Geological Society of London , 1845 ff , xiii, 43.

Awdur:

Frederick John North, O.B.E., D.Sc., F.G.S., F.S.A., F.M.A., (1889-1968), Caerdydd