DAVIES, DAVID CHARLES (1826 - 1891); gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, diwinydd, esboniwr, ac am gyfnod yn brifathro Coleg Trefeca (1888-91)

Enw: David Charles Davies
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1891
Priod: Jane Davies (née Cooper)
Rhiant: Robert Davies
Rhiant: Eliza Davies (née Charles)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, diwinydd, esboniwr, ac am gyfnod yn brifathro Coleg Trefeca (1888-91)
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Gwilym Arthur Edwards

Ganwyd yn Aberystwyth, 11 Mai 1826, mab Robert Davies ac Eliza Davies (merch y Parch. David Charles, Caerfyrddin). Addysgwyd ef yn ysgol John Evans, Aberystwyth, wedyn yng Ngholeg y Bala (yr oedd yn un o ddisgyblion cyntaf Dr. Lewis Edwards yn 1837), yna yn breifat yn Hanley gan y Parch. William Fletcher. Yn 1844 aeth i Goleg y Brifysgol, Llundain - B.A. 1847 (medalydd mewn mathemateg), M.A. 1849 : am gyfnod byr iawn bu yn New College, Edinburgh.

Dechreuodd bregethu yn 1848 (yn y Tabernacl, Aberystwyth); ordeiniwyd yn Llanelli yn 1852; bu'n gweinidogaethu yn y Drefnewydd (1850), Llanfairmuallt (1851-3 ac wedyn 1856-8), Windsor Street, Lerpwl (1853-6), y Drefnewydd (1858-9), Jewin, Llundain (1859-76). Priododd Jane Cooper, Llangollen, 1857. Gwrthododd fod yn brifathro Trefeca yn 1864 a hefyd ddilyn y Dr. John Parry yn y Bala, ond yn 1888 derbyniodd y swydd yn Nhrefeca yn olynydd i'r prifathro William Howells. Bu fyw ym Mangor am rai blynyddoedd ac yno y bu farw 26 Medi 1891.

Er mai gwannaidd fu ei iechyd am flynyddoedd, gweithiodd yn ddygn fel darlithydd, esboniwr, athro, a phregethwr. Cyhoeddodd esboniadau ar yr Effesiaid (dwy gyfrol), y Rhufeiniaid, ac Epistol Cyntaf Ioan, darlithiau athrofaol ar ysbrydoliaeth y Beibl, darlithiau ar Gristnogaeth, a atgynhyrchwyd yn Y Traethodydd (1881-4) gan E. Vincent Evans. Efrydydd a meddyliwr, athro llwyddiannus a phregethwr sylweddol a apeliai yn neilltuol at y gwrandawyr mwyaf meddylgar, ydoedd, ac am 40 mlynedd bu ei bregethu yn hynod o dderbyniol yng nghymanfaoedd ei enwad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.