DAVIES, BENJAMIN (1826 - 1905), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, llenor, ac argraffydd

Enw: Benjamin Davies
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1905
Rhiant: Naomi Davies
Rhiant: Thomas Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, llenor, ac argraffydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Medi 1826, yn Abergwaun, yn fab i Thomas a Naomi Davies, a bedyddiwyd yno yn 1841. Argraffydd a llyfr-rwymydd oedd, ond dechreuodd bregethu yn 1848, aeth i athrofa Hwlffordd (1851-4), a bu'n weinidog yn y Brymbo (1854-5), Salem, Ffordd-las (1855-7), Birkenhead (1857-61), a Salem, Porth, Rhondda (1861-6). Ailgydiodd yn 1866 yn y gwaith o argraffu a chyhoeddi, ym Mhontypridd. Bu farw 5 Mehefin 1905. Yr oedd yn sgrifennwr toreithiog, yn bennaf ar hanes y Bedyddwyr Cymreig. Ond y gwaith a rydd hawl iddo i le yn y geiriadur hwn yw ei argraffiad (1885) o Hanes y Bedyddwyr Joshua Thomas Yn Gymraeg y cyhoeddodd Joshua Thomas y llyfr; ond wedyn ailsgrifennodd ef yn Saesneg, gyda diwygiadau ac ychwanegiadau o gryn bwys; a chedwid y llawysgrif hon yn athrofa'r Bedyddwyr ym Mryste. Gwnaeth Benjamin Davies gyfieithiad Cymraeg ohoni, gyda rhai ychwanegiadau ganddo ef ei hunan. Yr argraffiad hwn o'r Hanes a ddefnyddir gan chwilotwyr heddiw, gan gynnwys yr ysgrifenwyr yn y geiriadur presennol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.