DAVIES, BENJAMIN (1739? - 1817), athro a gweinidog Annibynnol

Enw: Benjamin Davies
Dyddiad geni: 1739?
Dyddiad marw: 1817
Rhiant: Rees Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro a gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1739 neu 1740, yn ail fab i Rees Davies, rhydd-ddeiliad cefnog y Canerw ym mhlwyf Llanboidy. Haedda REES DAVIES ei hunan sylw, er mai diffygiol iawn yw ein gwybodaeth amdano; bu farw tua 1788. Yr oedd yn henuriad athrawiaethol yn eglwys Henllan Amgoed, a chyda Henry Palmer a John Davies anfonodd lythyr (Trevecka Letter 231) at Howel Harris ar 22 Mawrth 1740; ymddengys mai Calfin pybyr ydoedd a phregethwr sylweddol ond di-ddawn, yn hoffi trin pynciau dadleuol. Os yw cofnod yn y Wilson MSS. yn llyfrgell Dr. Williams (copi ohono yn NLW MS 373C ) wedi ei eirio'n gywir, gellid meddwl iddo fod yn academi Caerfyrddin dan Perrott, ond gellir yn haws gredu mai'r ysgol ramadeg a oedd yn gysylltiedig â'r academi a olygir. Honnir, heb sail ddigonol, i Rees Davies gael ei urddo'n weinidog ar gynulleidfa Llangeler - gwir fod Llangeler ar y pryd dan ofalaeth, annelwig braidd, gweinidogion a henuriaid Henllan a Threlech. Ond gwyddom iddo fod yn weinidog Pen-y-graig (gan ddilyn Milbourn Bloome) o 1757 hyd 1784; unwaith yn y mis yr ymwelai â'r lle. Yn y cofnod y cyfeiriwyd ato uchod, ' Rees Davies, Pen-y-graig' y gelwir ef.

Derbyniodd BENJAMIN DAVIES ei addysg fore gan ei weinidog Thomas Morgan; yna aeth i ysgol ramadeg academi Caerfyrddin (tua 1754), ac yn y diwedd cafodd ysgoloriaeth i'r academi ei hunan, yn 1760. Ar adeg nas gwyddom, penodwyd ef yn athro cynorthwyol yn academi'r Fenni, ac ar farw David Jardine dyrchafwyd ef (8 Rhagfyr 1766) yn athro, a chyda hynny'n weinidog y gynulleidfa. Ar 24 Medi 1781 aeth yn athro'r clasuron a mathemateg i academi Homerton. Yn 1783 cymerodd hefyd ofalaeth cynulleidfa Fetter Lane. Rhoes ei swydd fel athro heibio yn 1787, a'i ofalaeth yn 1795. Bu farw 22 Gorffennaf 1817 yn Bath. Bu'n briod deirgwaith. O'r ychydig iawn a gyhoeddodd, ei waith amlycaf oedd Primitive Candour, ateb i Joseph Priestley.

Aeth JAMES DAVIES, ail fab Rees Davies, i academi Caerfyrddin yn 1758. Bu'n weinidog yn Wotton-under-Edge, ac wedyn yn Broad Street, Bryste.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.