DARLINGTON, THOMAS (1864 - 1908), ysgolhaig ac arolygydd ysgolion

Enw: Thomas Darlington
Dyddiad geni: 1864
Dyddiad marw: 1908
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig ac arolygydd ysgolion
Maes gweithgaredd: Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

mab Richard Darlington, amaethwr, Burland, Nantwich, sir Gaerlleon; ganwyd 22 Chwefror, ac addysgwyd yn ysgol ramadeg Whitchurch, Ysgol y Leys, Caergrawnt, a Choleg S. Ioan, Caergrawnt (lle yr oedd yn ysgolor). Enillodd y clod uchaf yn yr arholiad cyntaf yn y clasuron (1884) a gwobr arbennig am draethawd Lladin (1885); graddiodd yn B.A. (Llundain) yn 1884, yn gyntaf yn y clasuron, ac yn M.A. yn 1887, gan ennill y fedal aur. Bu yn yr Almaen am naw mis cyn mynd yn athro i ysgol Rugby yn 1887; yn 1888 penodwyd ef yn brifathro Coleg y Frenhines, Taunton, a'r un flwyddyn gwnaed ef yn gymrawd o'i goleg yng Nghaergrawnt. Er na lwyddodd yn ei gais am swydd prifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1891, daeth i Gymru yn 1896 (ar ôl treulio pedair blynedd yn ysgrifennu) yn arolygydd ysgolion, a bu'n byw yn Aberystwyth o 1897 hyd ei farwolaeth. Yr oedd yn ieithydd penigamp, a medrai lawer o ieithoedd modern Ewrop, gan gynnwys iaith Romani a'r Gymraeg (a ddysgasai'n fachgen). Ysgrifennodd i'r Wasg yn Gymraeg ac yn Saesneg ar bynciau llenyddol a gwleidyddol Cymreig. Priododd Annie Edith Bainbridge, Eshott Hall, Northumberland; goroesodd hi ef, a mab a thair merch. Bu farw yn Llundain, 4 Chwefror 1908, a'i gladdu yn Weston Lullingfield, ger Ellesmere, Sir Amwythig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.