DANIEL ap LLOSGWRN MEW, bardd

Enw: Daniel ap Llosgwrn Mew
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Ceir awdl-farwnad i Owain Gwynedd (bu farw 1170) a briodolir iddo yn Hendreg. MS. 21ab, a The Myvyrian Archaiology of Wales , 193a. Y mae 'Llyfr Coch Hergest,' col. 1401, yn priodoli iddo gadwyn o englynion marwnad i Ruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (bu farw 1200) a geir yn Hendreg. MS. 113b ac yn y The Myvyrian Archaiology of Wales , 204b, fel gwaith Llywarch ab Llywelyn (Prydydd y Moch). Ni wyddom ddim pellach am y Daniel hwn. Yn ei awdl-farwnad i Owain Gwynedd gwelir enghraifft dda o'r ' Titanism ' y sonia Matthew Arnold amdano fel nodwedd mewn barddoniaeth Gymraeg : 'A mi bei gallwn ymgerydd â Duw, yd oedd im y defnydd.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.