DAFYDD
,
RICHARD WILLIAM
(
fl.
1740-52
),
cynghorwr Methodistaidd
;
brodor o
Landyfaelog
,
sir Gaerfyrddin
, a brawd i
David
Williams
,
Llyswyrny
[q.v.]
. Dywedir iddo bregethu ym
Môn
yn
1740
a chael triniaeth arw yno. Gwyddys yn sicr ei fod yn cynghori yn
1742
, a phenodwyd ef yn
sasiwn Llanddeusant
,
1743
, i
arolygu seiadau
yn
sir Gaerfyrddin
. Cymerth ran yng ngwrthryfel
John
Richard
Llansamlet
, yn erbyn trefniadau'r sasiwn yn
1743
, ac ysgrifennwyd ato i'w ddarbwyllo gan
Whitefield
a
Howel
Harris
. Penodwyd ef yn
ymwelydd seiadau
Gorseinon
a
Phenbre
yn
1744
. Gwyddys ei fod yn
Llandyfaelog
yn
1744
, a chyfarfu
Thomas
William
ag ef yno yn
1747
. Cawn ef yn pregethu yn
Nhrefeca
yn
1752
a dyna'r olwg olaf arno. Ymddengys iddo ymsefydlu yn
Abertawe
, a bu'n gefn i'r seiat fore yn y dref.
Llyfryddiaeth:
-
H. Bevan
,
Ychydig hanes neu goffadwriaeth am amryw
bethau neillduol a gymmerasant le ymhlith corph y
Methodistiaid Calfinaidd yn ac o'u dechreuad, sef oddiar yr
amser y daeth Mr. Howel Harries i bregethu yn ei droion
cyntaf i amryw barthau o Sir Forganwg a'i chyffiniau pethau
na buont yn argraffedig o'r blaen, eithr wedi eu clywed o
eneuau yr hen bobl ag oedd yn fyw yn yr amser hyny, ac wedi
eu hysgrifenu er mwyn eu cadw mewn coffadwriaeth, ar
ddymuniad rhai Brodyr
, Abertawe, 1838
, 7;
-
John Pritchard
,
Methodistiaeth Môn
, 1888
, 23;
-
Methodistiaeth Cymru
, 1851–6
, i, 115; iii, 29;
-
Y Tadau Methodistaidd
, 1895
, i, 212;
-
R. Bennett
,
Methodistiaeth Trefaldwyn Uchaf,
1738–1852
, 1929
, 224;
-
Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid
Calfinaidd
, xxi, 74; xxv, 52: xxvii, 15, 140;
-
Joseph Evans
,
Biographical Dictionary of Ministers and
Preachers of the Welsh Calvinistic Methodist Body…to the
close of the year 1850
, 1907
, 29;
-
T. Beynon
,
Treftadaeth y Cenfu
, 121.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe