DAFYDD, PHILIP (1732 - 1814), cynghorwr Methodistaidd yng Nghastellnewydd Emlyn

Enw: Philip Dafydd
Dyddiad geni: 1732
Dyddiad marw: 1814
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr Methodistaidd yng Nghastellnewydd Emlyn
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Clocsiwr tlawd. Ymgynullai'r seiat Fethodistaidd yn ei dŷ yn 1760, a thrachefn (i aros codi'r capel yn 1776) yn 1774-5. Prydyddai, a chyhoeddodd farwnadau i William Williams, Pantycelyn, yn 1791, ac i Ddaniel Rowland yn 1797 - gweler Llyfryddiaeth y Cymry. Nid mor adeiladol fu ei waith yn argyfwng 1797 pan gyhuddwyd amryw o weinidogion yr Ymneilltuwyr o gyd-ddealltwriaeth â'r Ffrancwyr; cyhoeddodd 'faled' annheilwng yn eu herbyn, a fflangellwyd yntau gan William Richards o Lynn yn ei bamffledyn Cwŷn y Cystoddiedig (1798) - ar hyn, gweler J. J. Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Gymru, 174-9, a Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1930, 30-2.

Bu farw ym 1814 yn ôl Methodistiaeth Cymru, ii, t.458 ac ymlaen

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.