Heblaw mawl gorchestol i haelioni Rhys o'r Tywyn , mewn cywydd ac awdl, a hefyd i'w feibion, bu Dafydd yn glodforwr ffyddlon ar Edmwnt a Siasbar Tudur , a chanodd gywydd i Harri Tudur , ac awdl hefyd, pan nad oedd ond plentyn. Am ystyr ei awdl ‘enghreifftiol’ gw. Cerdd Dafod Syr John Morris-Jones , 363-4, 379-82. Bu Dafydd Nanmor , Dafydd ab Edmwnt , Ieuan Deulwyn , Deio ab Ieuan Du , a Thudur Penllyn , farw yn ymyl ei gilydd, a golyga hyn gryn drafferth, a gwahaniaeth barn rhwng golygyddion a'i gilydd — ac â hwy eu hunain ar adegau! Anodd dewis blwyddyn hwylus i gladdu'r cwbl ynghyd. Ar hyn o bryd ymddengys bod y dewis rhwng tua 1485 a thua 1490 ; a chofier bod pwyslais ar y ‘tua.’
Hoff oedd Dafydd o ‘orchestion,’ neu gwestiynau anodd, a charai gynganeddu seryddiaeth, serddewiniaeth, ac arwyddion tywydd ; a gwneud campau ar fesurau cerdd dafod, a gramadeg . Dyfynna bedair llinell o fesur Lladin ar Wyl Bawl Abostol , a thry hwy'n bedwar englyn. Diddorol yw'r darganfyddiad o'i enw yn ei law ei hun ar lawysgrif Ladin o Gerallt Gymro , sydd yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol ( N.L.W. MS. 3024 ); gw. Cylchgrawn Ll.G.C. , ii, 11 a'r llun gyferbyn. Ar t. 130, ceir, mewn llythrennau addurnedig, ‘ Gwenn or dol .’ Anodd peidio â dyfynnu o'i ‘ Gyffes ’ (t. 78): ‘ Ni thorrais vn llythyrenn/O bin ag ingk heb ennw Gwen .’ Dynwaredodd yn Gymraeg un o groeseiriau Lladin y cynoesoedd (‘ Sator arepo tenet opera rotas ’). Mae ‘ Compod Manuel ’ hefyd yn Pen. 52 , yn ei law ef ei hun (gw. Pen. MS. 75 (229) ; R.W.M. i, 403, 503, 783).
Athro-Emeritus Syr Ifor Williams, D.Litt., Ll.D., F.B.A., F.S.A., (1881-1965), Pontlyfni