DAFYDD LLWYD ap Dafydd ab Einion ap Hywel
o'r
Drenewydd
(bu f.
cyn 1469
),
gŵr o fri yng Nghydewain yng nghanol y 15fed g., a noddwr hael i'r beirdd
.
Olrheiniai ei ach o
Elystan Glodrydd
. Symudasai un o'i hynafiaid o
Gefnllys
i
Fochdre
, ac ymsefydlodd ei dad yn y
Drenewydd
. Canwyd ei glodydd gan
Lewis Glyn Cothi
,
Llawdden
, a
Guto'r Glyn
, a phwysleisir cyfoeth ei wleddoedd a'i
haelioni i'r beirdd
. Ymddengys fod
Hywel Swrdwal
yn fath ar fardd teulu iddo, a bu ef farw ychydig o flaen ei
noddwr
. Ei wraig oedd
Gwenllian
ferch
Maredudd ab Owain ap Gruffudd ab Einion
,
arglwydd y Tywyn
. Bu iddynt ddau fab a merch —
Rhys
,
Robert
, ac
Elen
.
Yr oedd
RHYS AP
yn
ysgwïer
i
Edward
IV
, ac yn
ystiward
iddo yng
Nghydewain
,
Ceri
,
Cyfeiliog
, ac
Arwystli
. Bu hefyd yn
llywodraethwr
castell Trefaldwyn
. Collwyd ef ym
mrwydr Danesmore
neu
Fanbri
,
1469
. Canodd
Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd
gywydd sy'n awgrymu bod ansicrwydd am ei dynged wedi'r frwydr. O'i enw ef y cafodd
Prysiaid
y
Drenewydd
[q.v.]
eu cyfenw. Gwraig
Rhys
oedd
Margaret
ferch
Ieuan ab Owain ap Maredudd
,
Neuaddwen
.
Llyfryddiaeth:
-
R. Williams
,
Montgomeryshire Worthies
, ail arg.,
1894
(2il arg.), 28;
-
Heraldic Visitations of Wales and Part of
the Marches
, 1846
, i, 314;
-
Gwaith Lewis Glyn Cothi
.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth