DAFYDD GLYN DYFRDWY (fl. c. 1575), bardd

Enw: Dafydd Glyn Dyfrdwy
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Brodor, efallai, o Llansantffraid Glyn Dyfrdwy. Nid oes dim o'i hanes ar gael. Ceir 'Cywydd i ofyn march yn rhodd i Risiard Llwyd o Lwyn y maen dros Rhobert Tanad' yn NLW MS 3050D (410), ac y mae darnau eraill o'i waith yn NLW MS 3039B (225), Llanstephan MS 169 (46, 50), a Peniarth MS 103 (48) a Peniarth MS 313 (82).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.