DAFYDD GAM (bu farw 1415), milwr Cymreig

Enw: Dafydd Gam
Dyddiad marw: 1415
Plentyn: Gwladus verch Dafydd
Plentyn: Morgan ap Dafydd Gam
Rhiant: Llywelyn ap Hywel Fychan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr Cymreig
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: John Edward Lloyd

mab Llywelyn ap Hywel Fychan, tir-feddiannwr ym Mrycheiniog; yr oedd y tad o dylwyth Einon Sais, ac yn byw yng nghastell Penpont ar afon Wysg. Golyga'r llysenw fod ganddo lygad croes neu iddo golli un llygad. Dywed traddodiad i Ddafydd ffoi o'i fro enedigol ar ôl lladd ei berthynas Richard o Slwch, yn stryd fawr Aberhonddu. Fe'i cawn ef gyntaf, yn Ebrill 1400, yn ysgwier i'r brenin ac yn derbyn tâl o ddeugain marc yn y flwyddyn (Cal. Close Rolls, 79). Gan fod y brenin Harri eisoes, oblegid ei briodas â Mary Bohun, ag arglwyddiaeth Brycheiniog yn ei feddiant, y mae'n debyg nad oedd y gyfathrach rhwng Dafydd ag ef yn un newydd; gwyddys i Ddafydd barhau yn bleidiwr teyrngar i blaid y Lancastriaid hyd ei farw. Ym mis Tachwedd 1401 fe'i gwobrwywyd o gronfa tir a gymerwyd oddi ar rai gwrthryfelwyr (Cal. Pat. Rolls, 11); dywed yr hanesydd Ysgotaidd, Walter Bower, iddo chwarae'i ran yn y fuddugoliaeth ar Owain Glyn Dwr ym Mhwll Melyn, gerllaw Caerbuga, 5 Mai 1405 (Scotichronicon, ed. W. Goodall, 1759, ii, 452). Y mae'r dyddiad hwn yn peri bod rhaid amau cywirdeb y stori wybyddus am ei ymosodiad ar Glyn Dwr yn y senedd a gyfarfu ym Machynlleth yn 1404; rhaid amau'r stori ar gyfrifon eraill hefyd a chofio hefyd na ddywedwyd mo'r stori hyd amser Robert Vaughan, Hengwrt (bu farw 1667). Y mae'n gwbl sicr i Ddafydd syrthio i ddwylo Glyn Dwr, ond yn llawer mwy diweddar na hyn; ym mis Mehefin 1412, pan oedd y gwrthryfel ar fin diweddu, y rhoddwyd awdurdod i senesgal a derbynnydd ('receiver') Aberhonddu, a thad y carcharor yn caniatáu, i drin gyda Glyn Dwr fater pridwerth 'David Gamm,' deiliad yn arglwyddiaeth Brycheiniog (Cal. Pat. Rolls, 406). Cafodd y carcharor ei ryddhau. Yn 1415 aeth Dafydd, gyda'i feistr y brenin, i Ffrainc, a bu farw ar faes brwydr Agincourt. Ymgasglodd ystorïau ynglyn a diwedd oes yr ymladdwr grymus hwn; er enghraifft, dywedwyd iddo gael ei wneud yn farchog y dydd y collodd ei fywyd. Canwyd ei glodydd yn hir gan ei ddisgynyddion, a oedd wyr o ddylanwad; am ddwy ganrif a hanner bu tylwyth Games yn wyr pwysig ym Mrycheiniog - yn Aberbrân, Newton (gerllaw Aberhonddu), Tregaer, Buckland, a Phenderyn - hyd nes i linach y gwrywod ddarfod o'r tir. Yr uchel-siryf diwethaf o'r enw oedd Hoo Games (1657). Trwy i'w ferch Gwladus briodi Syr William ap Thomas o Raglan daeth Dafydd yn gyndad i'r Herbertiaid i gyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.