Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAFYDD DARON ( fl. 1400 ), deon Bangor yn niwedd teyrnasiad Rhisiart II . Ym mis Tachwedd 1397 cafodd brebendiaeth Llandwrog . Ynghyd â'r cabidwl rhoes gyfrif, 19 Mai 1399 , o werthoedd ariannol yr esgobaeth a fuasai yn eu gofal hwy er pan fu'r esgob Swaffham farw 24 Mehefin 1398 . Ar un adeg yr oedd ganddo swydd yn eglwys Clynnog Fawr . Dyna'r cwbl a ddywed hanes cyfoes amdano.

Dywed Browne Willis (gan ddilyn Le Neve ) iddo gael ei fwrw allan o'i wlad oherwydd iddo gynorthwyo Owain Glyn Dŵr ; dywed hefyd fod y deon yn ŵr o gyfoeth ac yn fab i Evan ap Dafydd ap Griffith , yn disgyn o Garadoc ap Iestyn . Y mae'r honiad mai yn ei dŷ ef yr arwyddwyd y ‘ Cytundeb Tridarn ’ yn fwy amheus. Yn ôl Hall , croniclydd o Sais , a'r unig awdurdod sy'n dywedyd ymhle'r arwyddwyd y ddogfen honno, yn nhŷ archddiacon Bangor yr arwyddwyd hi, ac felly ni ellir cysylltu Dafydd Daron â'r hanes ond trwy farnu bod y gair ‘ archddiacon ’ wedi ei arfer ar gam am ‘ deon .’

Llyfryddiaeth:

  • J. E. Lloyd , Owen Glendower / Owen Glyn Dwr , 1931 , 1931 , 94;
  • Browne Willis , A survey of the cathedral church of Bangor; and the edifices belonging to it … , 1721 (arg. 1721 ), 122-3;
  • An Inventory of the Early Chancery Proceedings concerning Wales , 1937 (Cardiff, 1937 ), 15.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor