Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



DAFYDD BENWYN ( ail hanner yr 16eg g. ), un o feirdd Morgannwg . Dywed ei gyfoeswr, Sils ap Siôn , mai gŵr o Langeinwyr ydoedd. Ei athro barddol ydoedd Rhisiart Iorwerth o Langynwyd , mab Iorwerth Fynglwyd . Ceir peth o'i waith yn ei law ef ei hun yn Llsgr. Caerdydd 10 ac yn Llsgr. Llanst. 164 , ac y mae gennym ddau gasgliad mawr o'i awdlau a'i gywyddau, y naill yn Llsgr. Caerdydd 2 (277) , a'r llall yn Llsgr. Coleg Iesu 13 . Ef yw'r mwyaf toreithiog o feirdd Morgannwg , a chanodd gerddi o fawl i'r rhan fwyaf o deuluoedd bonheddig y sir ac i uchelwyr Gwent . Er ei fod yn ddisgybl i Risiart Iorwerth (a hefyd i Lewis Morgannwg , efallai), ac er iddo etifeddu dysg yr hen benceirddiaid , canu cyffredin, ystrydebol, a geir ganddo. Nid oes dim yn dangos yn well y dirywiad a fu ym Morgannwg yn ail hanner yr 16eg g. na chymharu ei awdlau a'i gywyddau ef â gwaith Lewis Morgannwg a Risiart Iorwerth . Er hynny, y maent yn bwysig am ddau reswm. Yn gyntaf, cynhwysant achau llawer iawn o deuluoedd Gwent a Morgannwg . Ac yn ail, y maent y rhoddi inni ffurfiau Cymraeg enwau lleoedd yn y parthau hynny. Cyhoeddwyd detholiad bychan ohonynt gan John Kyrle Fletcher yn 1909 , The Gwentian Poems of Dafydd Benwyn . Cyhoeddwyd cywyddau eraill gan Cadrawd yn Cyfaill yr Aelwyd .

Llyfryddiaeth:

  • ‘Hopcyn’ a ‘Cadrawd,’ Hen Gwndidau, Carolau, a Chywyddau , 1910 , 1910 , 271-3;
  • D. Rhys Phillips , The Hist. of the Vale of Neath , Abertawe, 1925 , 1925 , 527-32;
  • G. J. Williams , Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad , 1926 , 1926 , 123-4;
  • G. J. Williams , Traddodiad Llenyddol Morgannwg , 1948 , 1948 , 75-94, 124.

Awdur:

Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963), Gwaelod-y-garth, Caerdydd