DAFYDD ap MAREDUDD ap TUDUR (fl. 1460) o Dregynon yn Sir Drefaldwyn, un o feirdd llai toreithiog hanner olaf y 15fed ganrif

Enw: Dafydd ap Maredudd ap Tudur
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o feirdd llai toreithiog hanner olaf y 15fed ganrif
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Rhiannon Francis Roberts

Canodd foliant i Hywel Colunwy (nid i Hywel ap Siencyn), Dafydd Deuddwr, Watcyn ap Tomas ap Rhoser, Dafydd ap Gruffudd Deuddwr (Peniarth MS 64 , f.243) a Dafydd ab Owain, abad Ystrad Marchell, a hefyd gywyddau o nodwedd grefyddol, megis 'I'r Grog Dduw.' Gellir tybio oddi wrth gynnwys 'Tebic ywr byd kyngyd kaeth' i'r bardd fynd yn ddall yn ei henaint.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.