DAFYDD ab IEUAN ab IORWERTH (bu farw 1503), esgob Llanelwy

Enw: Dafydd ab Ieuan ab Iorwerth
Dyddiad marw: 1503
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Yn ôl yr achau yr oedd yn disgyn o Dudur ap Rhys Sais. Yn Trefor, ger Llangollen, yr oedd cartref y teulu - yn ' Gavella Rosseriet,' efallai (gweler G. P. Jones, Extent of Chirkland, 15).

Daeth Dafydd ab Ieuan yn warden ysgol Rhuthyn ac yn abad Valle Crucis, gan ddilyn John ap Richard (gweler Peniarth MS 176 (53)), yn Valle Crucis. Yr oedd yr abad yn noddwr hael i'r beirdd ac y mae Gutun Owain a Guto'r Glyn yn tystio'n frwd i'w groeso.

Pan fu farw Michael Diacony gwnaed yr abad yn esgob Llanelwy ac fe'i cysegrwyd 26 Ebrill 1500 gan yr archesgob Morton. Bu farw dair blynedd wedi hynny.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.