DAFYDD ap MAREDUDD ab EDNYFED (fl. c. 1460), bardd nad oes dim o hanes ei fywyd ar gael.

Enw: Dafydd ap Maredudd ab Ednyfed
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Ceir o leiaf un enghraifft o'i waith yn y llawysgrifau, sef cywydd a gyfansoddwyd yn 1460 ar ddychweliad Rhisiart, duc Iorc, o Iwerddon, o'i ymgyrch newydd yn erbyn Harri VI, a phan alwyd Senedd yn frysiog ar ddiwedd yr un flwyddyn. Yn anffodus priodolir yr un cywydd mewn gwahanol lawysgrifau i'r beirdd Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd a Llywelyn ab Ednyfed, neu Llywelyn ap Maredudd ab Ednyfed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.