CYNWAL, RICHARD (bu farw 1634), bardd

Enw: Richard Cynwal
Dyddiad marw: 1634
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

o Faes y Garnedd(?), Capel Garmon, sir Ddinbych. Ac yntau'n fardd y mesurau caeth canodd y rhan fwyaf o'i gerddi i wahanol foneddigion Gogledd Cymru. Ymfalchïai yn arbennig yn ei swydd fel bardd teulu Plas Rhiwedog (ger y Bala), a chanwyd ymryson rhyngddo a Rhisiart Phylip am hyn. Canodd fawl Tomas Prys o Blas Iolyn a marwnad Sion Phylip o Ardudwy. Cyfansoddodd Rhisiart Phylip a Rowland Fychan farwnadau iddo (Cwrtmawr MS 11B ). Anodd gwybod a oedd unrhyw berthynas rhyngddo a Wiliam Cynwal. Ceir enghraifft o'i lawysgrifen yn Cardiff MS. 83 (3-4, 429).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.