CYNLLO (fl. 550?), sant

Enw: Cynllo
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

enghraifft o sefydlydd mynachaidd na wyddys ddim amdano ond y bu iddo bwysigrwydd lleol dros ran helaeth o'r wlad. Ni cheir mo'i enw yn nhestunau hynaf ' Bonedd y Saint,' eithr efe oedd nawddsant Nantmel, Llangynllo, Llanbister, ac, efallai, Rhaeadr Gwy yn sir Faesyfed, a Llangynllo a Llangoedmor yn Sir Aberteifi. Pan ychwanegir eu capelau at yr eglwysi hyn fe welir i gylch dylanwad y sant ymestyn dros bron yr oll o Werthrynion a Maelienydd. Nid oedd ei ddylanwad yng ngwaelod Ceredigion gymaint, er y dylid cofio bod Llangoedmor yn fam-eglwys cylch a gynhwysai Aberteifi, efallai, ar un adeg. Yr oedd Llanbister yn bwysicach fyth; yn 1291, yr oedd yn un o'r tair eglwys gyfoethocaf yn yr esgobaeth. Gorffennaf 17 oedd dydd y sant; dywed Lewis Glyn Cothi y telid sylw arbennig i'r dydd hwn yn Rhaeadr Gwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.