Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CYNAN DINDAETHWY (bu f. 816 ), tywysog . Yn ôl yr achau hynaf yr oedd yn fab Rhodri , ŵyr Cadwaladr (bu f. 664 ) . A chofio, fodd bynnag, i Rodri ( Rhodri Molwynog , fel rheol) f. yn 754 ac mai yn 813 y sonnir gyntaf am Gynan , rhaid ystyried yr ach yn wallus. Mewn cysylltiad ag ymgais â Hywel (brawd iddo, yn ôl Dr. David Powel ) i'w gyfrif yn bennaeth Môn y daw enw Cynan i dudalennau hanes. Yn 814 , Hywel a orfu; enillodd Cynan yr ynys yn ôl yn 816 , eithr bu farw'r flwyddyn honno. Yn ôl hanes bywyd Gruffydd ap Cynan , ei ddisgynnydd, o Gastell Dindaethwy yr oedd Cynan ; barnwyd mai'r amddiffynfa sydd ar fryn gerllaw Plas Cadnant ym mhlwyf Llandysilio oedd y lle hwnnw. Gadawodd ferch o'r enw Ethyllt (am y ffurf gw. Rhys , Celtic Folklore , 480, n.) a ddaeth yn fam Merfyn Frych (bu f. 844 ) ac felly'n gychwynnydd llinach brenhinol Gwynedd a Deheubarth yn y Canol Oesoedd .

Llyfryddiaeth:

  • A History of Wales , 231, 323;
  • An Inventory of the Ancient Monuments in Anglesey . The Royal Commission on Ancient Monuments, 1937 , ciii.

Awdur:

Syr John Edward Lloyd, D.Litt., F.B.A., F.S.A. (1861-1947), Bangor