CYNAN ab OWAIN (bu farw 1174), tywysog

Enw: Cynan ab Owain
Dyddiad marw: 1174
Plentyn: Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd
Plentyn: Gruffydd ap Cynan ab Owain Gwynedd
Rhiant: Owain ap Gruffydd ap Cynan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: John Edward Lloyd

mab Owain Gwynedd, ond ni wyddys pwy oedd ei fam. Yn 1145 ymosododd ef a Hywel ei frawd ar Aberteifi; anrheithiwyd y dref ond ni chymerwyd mo'r castell. Ddwy flynedd yn ddiweddarach goresgynnodd y brodyr Feirionnydd a bwrw allan eu hewythr Cadwaladr; gan iddynt ymosod o gyfeiriadau gwahanol ymddengys fel petai Cynan wedi ymsefydlu yn Ardudwy. Yn 1150 dywedir ei garcharu gan ei dad. Cymerth ran flaenllaw pan oeddid yn gwrthwynebu Harri II yn 1157 - gyda'i frawd Dafydd bu iddo gyfran yn yr ymosodiad sydyn yng nghoedydd Penarlag a fu bron yn achos i ymgyrch y brenin fethu'n gyfan gwbl. Daeth yr hyn a wnaeth yn 1159, pan geisiodd pum iarll ddal Rhys ap Gruffydd, â llai o glod iddo. Pan fu farw ei dad yn 1170, y mae'n debyg fod Cynan yn teyrnasu ar Eifionydd, Ardudwy, a Meirionnydd, a fu'n ddiweddarach ym meddiant ei dylwyth; yn 1188 yr oedd ei fab hynaf Gruffydd yn teyrnasu ar Feirionnydd (ac efallai ar Ardudwy), a'i fab iau, Maredudd, ar Eifionydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.