CUNEDDA WLEDIG (fl. 450?), tywysog Prydeinig

Enw: Cunedda Wledig
Plentyn: Einion Yrth ap Cunedda
Plentyn: Tybion ap Cunedda
Plentyn: Osfael ap Cunedda
Plentyn: Edern ap Cunedda
Plentyn: Dogfael ap Cunedda
Plentyn: Afloeg ap Cunedda
Plentyn: Ceredig ap Cunedda
Plentyn: Dunod ap Cunedda
Plentyn: Rhufon ap Cunedda
Rhiant: Edern ap Padarn Beisrudd ap Tegid
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog Prydeinig
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: John Edward Lloyd

Yn ôl ' Achau'r Saeson ' yn rhai o lawysgrifau ' Nennius ' a briodolir gan rai ysgolheigion i'r 7fed ganrif, daeth ' Cunedag,' un o hynafiaid Maelgwn Gwynedd (bu farw 547?), gyda'i wyth mab o'r Gogledd, h.y. Manaw Gododdin, 146 o flynyddoedd cyn i Faelgwn deyrnasu, ac ymlid y Sgotiaid, h.y. y Gwyddelod, o Wynedd gyda'r fath laddfa fel na ddaeth neb ohonynt yn ôl. Rhydd achau o'r 10fed ganrif y cysylltiadau â Maelgwn ac enwau naw mab Cunedda, a'i alw ef ei hun yn fab Edern ap Padarn Beisrudd ap Tegid. Er bod yr achau hyn ymhell ar ôl amser Cunedda, y mae'r hanes, a geir ynddynt yn weddol gywir. Tardda'r hen ffurf Gymraeg ' Cunedag ' o'r enw Celtaidd ' Counodagos ' yn golygu 'arglwydd da,' ac y mae'r enwau Eternus, Paternus, a Tacitus yn awgrymu i'r teulu fyw mewn awyrgylch Rufeinig am genedlaethau lawer. Y mae'r ansoddair 'peisrudd' (mantell goch) yntau yn lledawgrymu swydd o bwys yn yr ymerodraeth Rufeinig. Am feibion Cunedda y mae'n werth cofio bod enwau y rhan fwyaf ohonynt wedi eu cadw yn enwau tiroedd llwythau Cymreig yn y rhan honno o'r wlad, sef rhwng Dyfrdwy a Theifi, y dywed traddodiad i Gunedda a'i dylwyth eu goresgyn. Ceir Rhufon (' Romanus ') yn Rhufoniog, Dunod (' Donatus ') yn Dunoding, Ceredig yn Ceredigion, Afloeg yn Aflogion yn Lleyn, Dogfael yn Dogfeiling yn nyffryn Clwyd, ac Edern yn Edeirnion. Ni lwyddwyd hyd yn hyn i ddarganfod Osweilion, tir Osfael; dywedir i Dybion, y mab hynaf, farw ym Manaw Gododdin, ond rhoes ei fab ef, Meirion ('Marianus '), ei enw i Feirionnydd. Yr olaf oll ydyw Einion Yrth; ei fab ef, Cadwallon Lawhir, a gwblhaodd waith y teulu trwy orchfygu Gwyddelod Môn.

Gellir yn rhesymol iawn dderbyn yr hanes hwn i ddangos sut y bu i Gristion Brythonig o lannau'r afon Forth yn y Gogledd, pan oedd awdurdod Rhufain yn darfod ym Mhrydain, ymlid y Gwyddyl o dde-orllewin Cymru a gosod sylfeini Gwynedd y Canol Oesoedd. Awgrymwyd i Cunedda a'i lu deithio tua'r de yn unol â'r cynllun a ddyfeisiwyd gan Stilicho, pan oedd hwnnw, ychydig cyn y flwyddyn 400, yn ceisio amddiffyn Prydain. Cytunai hyn yn weddol dda â'r 146 blwyddyn y sonnir amdanynt yn ' Achau'r Saeson '; ar y llaw arall, y mae olyniaeth Cunedda yn yr achau yn awgrymu cyfnod diweddarach yn y 5ed ganrif. Yr oedd enwau pedwar o'i feibion - Donatus, Eternus, Marianus, a Romanus - yn gyffredin yng nghylchoedd Cristnogol y cyfnod hwnnw, ac y mae'r teitl 'gwledig,' h.y. teyrnaswr, yn awgrymu pennaeth ag iddo awdurdod arbennig - o dan y Rhufeiniaid efallai. Y mae'r enw ei hun yn anghyffredin, er y ceir ef yn Allt Cunedda gerllaw Cydweli, fe'i rhoddwyd - am resymau hynafiaethol efallai - i fab Cadwallon ap Gruffydd ap Cynan. Ceir manylion diddorol ym ' Marwnad Cunedda ' yn ' Llyfr Taliesin,' ond y mae'r ffurf dywyll ' Cuneddaf ' yn profi mai cân ddiweddar ydyw ac na ellir derbyn ei thystiolaeth yn ddiymwad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.