CRAWLEY
,
RICHARD
(
1840
-
1893
),
ysgolhaig
;
g. yn y
Bryngwyn
gerllaw'r
Rhaglan
,
26 Rhagfyr 1840
, yn fab i
William
Crawley
,
archddiacon Mynwy
, a
Gertrude
, trydedd merch
Syr
Love
Jones Parry
o
Fadryn
[q.v.]
. Yr oedd yn
gymrawd
o
Goleg Worcester
,
Rhydychen
. Ymdrinir â'i yrfa a'i weithiau (y pwysicaf ohonynt oedd y cyfieithiad o
Thucydides
, a gynhwysir bellach yn ‘
Everyman's Library
’) gan
Sidney
Lee
yn yr atodiad cyntaf i'r
D.N.B.
Bu f.
30 Mawrth 1893
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor