CRAWSHAY
(TEULU),
Cyfarthfa
,
sir Forgannwg
.
Dylanwadodd rhai aelodau o'r teulu hwn yn fawr iawn ar ddiwydiant haearn a glo a chynnydd masnachol
De Cymru
; y mae eu henw ynghlwm ag ardal
Cyfarthfa
,
Merthyr Tydfil
, yn fwyaf arbennig.
RICHARD
CRAWSHAY
(
1739
-
1810
);
g. yn
Normanton
,
swydd Efrog
, mab
William
Crawshay
,
ffermwr
. Ffraeodd â'i dad ac yn 16 oed gadawodd ei gartref, gan drafaelio i
Lundain
a chyrraedd yno heb arian a gorfod gwerthu'r merlyn y marchogasai arno. Cafodd waith mewn lle yr oeddid yn
gwerthu heiyrn smwddio
. Enillodd edmygedd ei feistr, priododd ferch hwnnw, a daeth i feddu'r busnes. Clywodd am sefydlu gweithydd haearn yn
Ne Cymru
ac aeth i
Ferthyr
a phrynu les
Homfray
yng
Nghyfarthfa
lle yr oeddid yn tyllu gynnau mawr. Pan fu f.
Anthony
Bacon
I
[q.v.]
cafodd les
gwaith Cyfarthfa
yn ystod yr amser yr oedd meibion hwnnw o dan oed; yn ddiweddarach prynodd gyfran
Anthony
Bacon
II
a daeth yn unig berchennog y gwaith (
1794
). Mabwysiadodd ddulliau
Cort
ynglŷn â melinau pwdlo a rholio haearn, ac
adeiladodd ffwrneisiau, gefeiliau, a melinau
newydd; bu hefyd yn hyrwyddo'r mudiad i gael y gamlas a agorwyd o
Ferthyr
i
Gaerdydd
yn
1794
. Manteisiodd ar y galw am ynnau mawr a achosid gan y
rhyfel Napoleonaidd
a phris uchel haearn o
Rwsia
a
Sweden
. Cafodd gymorth gwerthfawr gan ei ddau nai,
Joseph
a
Crawshay
Bailey
, meibion
ei chwaer, eithr parodd ei unig fab,
William
, gryn drwbl iddo. Daeth y tad a'r mab i ddeall ei gilydd yn well yn ddiweddarach. O dan ewyllys y tad, cafodd
William
dair rhan allan o bob wyth; aeth cyfran gyffelyb i
Benjamin
Hall
, gŵr ei ferch
Charlotte
(dyma rieni
Syr
Benjamin
Hall
, ‘
Big Ben
,’ a'r
arglwydd Llanover 1af
)
; a rhoddwyd y chwarter arall i
Joseph
Bailey
. Bu
Richard
f. yn
1810
a'i gladdu yn eglwys gadeiriol
Llandaf
.
Nid ymddiddorai
WILLIAM
CRAWSHAY
I
fawr yn y gwaith o wneuthur haearn, eithr gofalu am ochr y gwerthu yn y
George Yard
,
Upper Thames Street
,
Llundain
, gan adael i'w fab
William
Crawshay
II
ofalu am y gweithydd yng
Nghyfarthfa
a
Hirwaun
. Yr oedd ef yn amgenach personoliaeth nag a bortreadir gan
Charles
Wilkins
ac
ysgrifenwyr
eraill. Llwyddodd i brynu cyfrannau
Benjamin
Hall
a
Joseph
Bailey
ac felly ddyfod yn berchen ar y cwbl. Bu f. yn
Stoke Newington
, gerllaw
Llundain
, gan adael eiddo gwerth £700,000. Bu iddo dri mab a dwy ferch.
WILLIAM
CRAWSHAY
II
(
1788
-
1867
)
a reolai weithydd
Cyfarthfa
a
Hirwaun
; prynodd hefyd weithydd haearn yn
Trefforest
a'r
Forest of Dean
. Efe ydyw'r hwn a gyfenwid yn gyffredin ‘
Brenin yr Haearn
.’ Yn ei gyfnod ef tyfodd y gwaith yn fawr; gwneid llawer iawn o haearn a chodid llawer iawn o lo at borthi'r ffwrneisiau. Tueddai ei agwedd at ei weithwyr i'w ffromi hwynt ar adegau, e.e. ar adeg y cythrwfl ym
Merthyr Tydfil
. Gadawodd waith
Trefforest
i'w fab
FRANCIS
, gwaith y
Forest of Dean
i
HENRY
, a
Chyfarthfa
i'w fab ieuengaf,
ROBERT
CRAWSHAY
. Yr oedd ganddo hefyd gyfrannau yn y
Taff Vale Railway
, etc. Bu f. yn
Caversham Park
,
Reading
,
4 Awst 1867
.
Ganed
ROBERT
CRAWSHAY
(
1817
-
1879
) yn
Cyfarthfa
,
3 Mawrth 1817
. Cadwodd ef
waith Cyfarthfa
ymlaen nes y daeth y dirwasgiad mawr ac y bu i ddarganfyddiad
Henry
Bessemer
drawsnewid y dull o wneud dur. Bu ef f.
10 Mai 1879
a'i gladdu yng nghladdfa
eglwys y Faenor
. Cynorthwyodd ef a'i wraig,
Rose Mary
Crawshay
, gyda'r gwaith o
godi ysgolion
. Cadwyd y busnes ymlaen gan ei feibion o dan yr enw ‘
Messrs. Crawshay Bros.
’ nes y'i trosglwyddwyd i'r
Meistri Guest, Keen, and Nettlefold
yn
1902
.
Llyfryddiaeth:
- Casgliad papurau Crawshay yn Ll.G.C.;
-
The Principality
,
24 Mai 1856
;
- ymchwil bersonol;
-
Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
, vii, 12-32.
Awdur:
Watkin William Price, M.A., (1873-1967), Aberdâr