COX, JOHN (1800 - 1870), argraffydd, llyfrwerthwr, a phostfeistr, Aberystwyth.

Enw: John Cox
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1870
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd, llyfrwerthwr, a phostfeistr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Ceir rhestr gweddol gyflawn o gyhoeddiadau gwasg John Cox yn G. Eyre Evans, Aberystwyth and its Court Leet (1902). Yn eu mysg yr oedd dau newyddiadur - The Demetian Mirror; or Aberystwyth Reporter and Visitants' Informant…, a ymddangosodd unwaith yr wythnos o 15 Awst 1840 hyd 31 Hydref 1840, a The Aberystwyth Chronicle, and Illustrated Times, wythnosolyn a gyhoeddwyd o 9 Mehefin 1855 hyd 22 Rhagfyr 1855. Yr oedd graen da fel rheol ar waith argraffu swyddfa Cox.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.