Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



CORY (John Cory and Sons Limited ). Ceir dau deulu gwahanol o ddiwydiannwyr yn Ne Cymru a oedd yn dwyn yr un cyfenw. Y mae'r teulu hwn (John Cory and Sons Limited) i'w wahaniaethu oddi wrth deulu'r Richard Cory I a'i feibion a ffurfiodd fusnes Cory Brothers Limited .

JOHN CORY I ( ? - 1891 ), S. Julian's , gerllaw Casnewydd-ar-Wysg , pennaeth ‘John Cory and Sons’ ; g. yn Padstow , Cernyw . Ar ôl bod yn gapten llongau daeth i Gaerdydd i fod yn frocer a pherchennog llongau yn 1872 — h.y. rai blynyddoedd wedi i Richard Cory I ddyfod i Gaerdydd o Bideford gyda'i ddau fab, John a Richard II. Gyda'i ddau fab — JOHN a JAMES HERBERT — sefydlodd fusnes ‘ John Cory and Sons ’; pan fu ef. f. yr oedd gan y cwmni 21 o agerlongau a thair llong arall yn cael eu hadeiladu iddynt.


JOHN CORY II ( 1855 - 1931 ), mab John Cory I ; g. yn Padstow , a daeth i Gaerdydd yn 17 oed o Lundain , lle y buasai'n dysgu gwaith marsiandwr a brocer llongau . Ymunodd â'i dad ( John Cory I ) a'i frawd Herbert ym musnes ‘ John Cory and Sons ,’ perchnogion llongau , etc. Priododd Emma Grigg , merch George Hosking Wills , Caerdydd . Bu'n byw yn Sea View House , Penarth , a Kingsland , Peterston-super-Ely . Efe oedd llywydd bwrdd cyfarwyddwyr y ‘ Cardiff Channel Dry Docks and Pontoon Co., Ltd. ’, a'r ‘ Mount Stuart Dry Docks, Ltd. ’, pan unwyd y ddau gwmni yn 1931 . Yr oedd yn gyfarwyddwr tua 36 o gwmnïau'n ymwneud â llongau a thrafnidiaeth, yn Geidwadwr o ran gwleidyddiaeth, ac yn Wesle o ran enwad. Bu f. 26 Rhagfyr 1931 , a chladdwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus Caerdydd . Gadawodd ddau fab — (1) JOHN HERBERT CORY (bu f. 17 Mai 1939 ), a (2) Charles Kingsley Cory .


CORY , Syr JAMES ( 1857 - 1933 ), barwnig, perchennog llongau, etc. , ail fab John Cory I ; g. yntau yn Padstow 7 Chwefror 1857 . Yr oedd yn gyfarwyddwr tua 35 o gwmnïau . Bu'n aelod seneddol dros rannau o Gaerdydd , 1915-1923 . Eglwyswr ydoedd ac addolai yn eglwys Tongwynlais . Rhoes gymorth ariannol i Goleg Technegol ac i ysbytai Caerdydd . Bu'n briod ddwywaith, gan adael pedwar mab ac un ferch o'r briodas gyntaf, a dwy ferch o'r ail briodas. Bu f. 2 Chwefror 1933 , ac fe'i dilynwyd, fel barwnig, gan ei fab HERBERT GEORGE CORY (a fu f. 7 Mai 1935 ).

Llyfryddiaeth:

  • Western Mail , 12 Rhagfyr 1891 ;
  • Kelly's Handbook to the titled, landed and official classes ;
  • J. Ballinger , Guide to Cardiff City and Port , Caerdydd, 1912 ;
  • Gwybodaeth gan Mr Ben Jones, argraffydd y Bywg.

Awdur:

Watkin William Price, M.A., (1873-1967), Aberdâr