CORBETT, JOHN STUART (1845-1921), cyfreithiwr a hynafiaethydd

Enw: John Stuart Corbett
Dyddiad geni: 1845
Dyddiad marw: 1921
Priod: Blanche Corbett (née Evans)
Rhiant: Elizabeth Corbett (née Evans)
Rhiant: John Stuart Corbett
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Cyfraith; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Henry John Randall

Ganwyd 16 Mai 1845, mab hynaf John Stuart Corbett ac Elizabeth, merch James Evans, Gortha, sir Faesyfed; daethai'r tad i Gaerdydd yn 1841 yn stiward dros ei berthynas, ail ardalydd Bute. Cafodd ei addysg yn Cheltenham. Pasiodd yn gyfreithiwr yn 1867, a bu'n gweithredu fel y cyfryw yng Nghaerdydd gyda phartner; bu'n glerc i fainc ynadon Llandaf am gyfnod. Priododd (1872) Blanche, merch James Williams Evans, ficer Costessey gerllaw Norwich, mab un a fuasai'n rheithor Llandochau, gerllaw Caerdydd. Pan fu farw ei frawd James Andrew Corbett yn 1890, fe'i dewiswyd ef yn gyfreithiwr i ystad ardalydd Bute - swydd a gadwodd hyd nes y rhoes heibio weithio yn 1917. Bu yn y swydd bwysig hon ar adeg pan oedd llwyddiant meysydd glo De Cymru ar ei uchaf ac yn ystod 'rhyfel y rheilffyrdd,' pryd yr oedd ystadau teulu Bute o dan ofal y gŵr mawr a dylanwadol hwnnw - William Thomas Lewis, y barwn Merthyr 1af.

Arlunio a garddio oedd ei brif ddiddordebau, eithr wedi'r flwyddyn 1890 rhoes lawer o'i seibiant i hanes, yn arbennig hanes arglwyddiaeth Morgannwg; y mae'r haneswyr a'i dilynodd yn yr un maes yn cydnabod ei ofal a'i gywirdeb. Bu farw 9 Mawrth 1921.

JAMES ANDREW CORBETT (1846 - 1890), cyfreithiwr

Ei frawd, a olygodd argraffiad cywir o gyfrol Rice Merrick, A Booke of Glamorganshire Antiquities, yn 1887.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.