Ganwyd 8 Mehefin 1787, mab rheithor S. Botolph's, Bishop's Gate, Llundain. Bu Conybeare yn rheithor Sully, sir Forgannwg, 1822-1835, ac yn ddeon Llandaf, 1845-1857. Fel daearegwr bu iddo ran bwysig yn y gwaith o sefydlu astudiaeth ffosylau ymlusgiaid o'r oesoedd cyntefig. Pan oedd yn Sully rhoes gymorth gyda gosod sylfeini'r wybodaeth o feysydd glo De Cymru; tynnodd sylw at y plyg gwrthorweddol sydd yn ymestyn ar draws rhan ddeheuol y maes glo ac sydd o'r herwydd yn ei gwneuthur yn bosibl i weithio haenau na ellid mo'u gweithio oni bai am y plyg. Yr oedd yn F.G.S. ac yn F.R.S.
Pan oedd yn Llandaf bu Conybeare yn gyfrifol i raddau helaeth iawn am atgyweirio'r eglwys gadeiriol; yr oedd ei ragflaenydd wedi cychwyn ar y gwaith, gan roi sylw i'r ' lady chapel '; cyhoeddodd erthygl (yn Archæologia Cambrensis, 1850) ar hanes a phensaernïaeth yr eglwys.
Bu farw 12 Awst 1857.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Dyddiad cyhoeddi:
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.